

Mae Amgueddfa Pontypridd, agorwyd ym 1986 yn Nhabernacl; hen Gapel Cymreig y Bedyddwyr, yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd o gymuned cwm tawel i dref ddiwydiannol, ffyniannus yng nghanol ardal lofaol De Cymru. O gwmpas y diwydiant hwn y tyfodd ddiwylliant bywiog o gerddoriaeth, celf, chwaraeon a gweithgareddau gwleidyddol sy’n dal i gael dylanwad ar y dref heddiw.

BETH SY'N DIGWYDD

NEWYDDION


Ydych chi’n chwilio am weithgaredd hwyliog sy’n rhad ac am ddim yn Amgueddfa Pontypridd yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror? O Dydd Llun 24 Chwefror ymunwch â ni i fwynhau Llwybr Tourmaline a’r Amgueddfa Rhyfeddodau! Chwiliwch am Tourmaline, ei ffrindiau ac amrywiaeth o arteffactau hudol sy’n cuddio yn yr amgueddfa – ac yna lluniwch eich Amgueddfa Rhyfeddodau eich hun! Bydd y tri chynllun buddugol yn ennill bwndel lyfrau Tourmaline a Thocyn Celf Cenedlaethol (a phlant) drwy garedigrwydd @artfund. Cwblhewch y llwybr i dderbyn sticer!


Ystafelloedd cymunedol â lle i rhwng 40 a 60 o bobl a hynny’n dibynnu ar y drefniadaeth. Gallwn drefnu ar gyfer pob math o gynllun, er engraifft cyfarfod pwyllgor o gwmpas bwrdd, theatr ayyb. Cyfleusterau cegin ar gael.


Mae’r amgueddfa’n casglu gwrthrychau, lluniau ffotograffig a ffilmiau, gweithiau celf a dogfennau sy’n ein helpu i ddweud y stori am ein tref a’i phobl.


Mae Cyngor y Dref â chyfrifoldeb am ystod eang o wasanaethau’n cynnwys Amgueddfa Pontypridd, Digwyddiadau, Isadeiledd cyhoeddus, Dyfarnu ar grantiau a Ardaloedd Cymunedol