Casgliadau

CASGLIADAU

Mae casgliadau Amgueddfa Pontypridd yn perthyn i ardaloedd y mae Cyngor Tref Pontypridd yn gyfrifol amdanynt. Mae’r amgueddfa’n casglu gwrthrychau, lluniau ffotograffig a ffilmiau, gweithiau celf a dogfennau sy’n ein helpu i ddweud y stori am ein tref a’i phobl.    

Rydym yn gweithio’n ddygn i lenwi’r bylchau yn ein casgliadau. I wneud hyn rydym yn dibynnu gan fwyaf ar aelodau o’r cyhoedd. Yn benodol, rydym yn ceisio ehangu ein casgliadau yn ymwneud ag adloniant poblogaidd a chwaraeon, gwreiddiau amrywiol pobl y dref a’r unigolion sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn y gymuned. 


Mae ein harchifau ffotograffig a dogfennaeth, a hefyd wrthrychau nad sy’n cael eu harddangos ar gael i gael eu harchwilio gan y cyhoedd, ond, os gwelwch yn dda, dewch i gysylltiad â ni ymlaen llaw er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol.  
Share by: