Mae pobl sy’n rhagfynegi’r dyfodol ac yn mabwysiadu perspective byd eang yn gallu breuddwydio digwyddiadau mawr. Weithiau fe ddengys eu syniadau’n orffwyll, ond gall syniadau’r ffuglen wyddonol ddod yn wir. Pwy fuasai wedi meddwl gan mlynedd yn ôl y byddem ni yn hedfan i wledydd eraill yn rheolaidd a chario ffônau yn ein pocedi?
Wrth edrych yn ôl gallech sylweddoli pa mor braf erbyn hyn y mae ein bywydau; gwaith tŷ cymaint haws bob dydd a gwaith, teithio a chyfathrebu yn cyflymu a chyflymu. Mae ein huchelfryd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg yn tyfu’n rhyfeddol hefyd i roi iachâd i glefydau a hedfan i’r gofod er enghraifft - felly, pwy ŵyr beth fydd yn bosib yn y dyfodol? Er hynny, sut y gallwn gael y cydbwysedd priodol rhwng ein dychymyg diderfyn ni a chyfyngiadau ein planed a’i hadnoddau?
Felly, dyma apêl i weithredu! Rydym eisiau syniadau gan y cyhoedd ar sut i ddychmygu pa fath o ddyfodol sydd i Bontypridd. Byddwn yn dod â’ch holl syniadau at ei gilydd a’u rhannu gyda’r gymuned. Gobeithio y bydd hyn yn ddechrau ar gynllunio ar gyfer y dyfodol - strategaethau ar gyfer gweithredu! Pwy sydd amdani? Rhannwch eich syniadau gyda ni ar Facebook, Twitter neu Instagram a defnyddio #Pontypridd2120, defnyddio ein gwefan neu, yn yr hen ddull, ysgrifennu llythyr.