Pontypridd Cynaliadwy

Blaenorol
Nesaf
Helo eto ...

I ateb hwn, efallai y dylwn ni’n gyntaf edrych yn ôl i weld ein tref 100 mlynedd yn ôl. Yn y 1920au daeth Glofa De Cymru i ddiwedd 60 mlynedd o dwf economaidd cyflym yn seiliedig ar ddiwydiant trwm, yn enwedig y pyllau glo a’r gweithfeydd metel.

Er mai dim ond newydd gael y bleidlais oedd merched a’r hawl i gael rôl bwysicach mewn cymdeithas, dim ond 17% o ferched Pontypridd oedd yn perthyn i’r gweithlu yn 1920.
Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf dinistriol i ben ym 1918 - gwrthdrawiad oedd wedi achosi niwed enfawr i’r boblogaeth a’r economi. Ar ôl cyfnod byr o adferiad wedi’r rhyfel, gwelwyd ym 1924 ddechrau 15 mlynedd o ymdrech a chaledi ym mysg cymaint o’r boblogaeth a dechrau dirywiad economaidd, hir ac araf na ddaeth ag adferiad llawn i Dde Cymru nag ardaloedd ôl -ddiwydiannol eraill.

100 mlynedd yn ôl roedd Pontypridd yn ganolbwynt rhwydwaith cludiant rhyng-gysylltiol. Ar gyfartaledd roedd 450-500 o drenau yn pasio drwy Orsaf Ganolog Pontypridd yn ddyddiol (roedd gan y dref ddwy orsaf hyd at 1930!), yn cludo deunydd crai, nwyddau defnyddwyr a theithwyr. Roedd llawer o bobl yn gweithio’n fwy lleol ac yn cerdded i’w gweithle neu ar fws neu dram. Heddiw, mae cymaint o gludo masnachol ar y rheilffordd wedi symud i’r priffyrdd, ac mae mwy na 83% o deithio personol yn digwydd yn y car.

Mae’r pethau sydd gan bobl fel eiddo hefyd wedi newid dros y 100 ddiwethaf. Gallwn weld hyn yn yr Amgueddfa! Beth fuasai’r bobl yn y 1920au yn feddwl am y pethau megis cardiau post, slipiau cyflog, haearnau smwddio rydyn ni wedi’u dewis ar gyfer ein casgliad? Sut fuasem ni’n dewis heddiw beth sy’n ddigon pwysig i’w cadw, a beth ellid ei ailddefnyddio, ei ddiweddaru neu ei waredu?
Blaenorol
Nesaf
Share by: