Hygyrchedd

HYGYRCHEDD

Mae’r amgueddfa’n hollol hygyrch i rai sy’n defnyddio cadair olwyn. Mae lifft ar bob llawr a thoiledau ar gyfer yr anabl ar y llawr gwaelod a’r islawr.    

Nid oes man parcio penodol yn ystod yr wythnos yn yr amgueddfa. Y lle parcio i’r anabl sy’n agos i’r amgueddfa yw Gas Lane ar ochr ogleddol Stryd Taf sydd tua 300 llathen i ffwrdd. Ar y rhan fwyaf o ben wythnosau, fodd bynnag, mae croeso i ymwelwyr barcio yn y maes parcio y tu ôl i’r amgueddfa.   

Mae staff yr amgueddfa bob amser yn gwneud eu gorau i wneud pob arddangosfa’n hygyrch ac wrth law, ac rydym hefyd yn frwd i gydweithio ag unrhyw unigolyn neu grwpiau sy’n ymwneud ag anableddau neu broblemau gyda nam synhwyraidd.     
Mae’r staff yn fwy na bodlon i gynnig tywys a thywys hefyd yn gyffyrddog unrhyw un o gwmpas yr amgueddfa; gellir trefnu hyn cyn eich ymweliad i wneud yn siŵr fod y staff ar gael.  

Os am gopi o bolisi hygyrchedd llawn yr amgueddfa dewch i gysylltiad drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu neu ffonio 01443 490740.
Share by: