Cyngor y Dref

CYNGOR Y DREF

Daeth Cyngor Pontypridd i fodolaeth ar Ebrill 1af, 1974 fel canlyniad i Ad-drefnu Llywodraeth Leol. 

Mae gan y Cyngor 23 o gynghorwyr sy’n cynrychioli un ward ar ddeg. Mae poblogaeth trigolion ardal Cyngor Tref Pontypridd yn 30,000, ac felly’n un o Gynghorau Cymuned mwyaf Cymru.

Mae Cyngor y Dref â chyfrifoldeb am ystod eang o wasanaethau’n cynnwys:
  • Amgueddfa Pontypridd
  • Digwyddiadau
  • Isadeiledd cyhoeddus
  • Dyfarnu ar grantiau
  • Ardaloedd Cymunedol
Maer y Dref yw Pennaeth Dinesig Pontypridd ac sy’n cael ei h/ethol gan y Cynghorwyr Tref bob mis Mai.  

Oherwydd bod Cyngor y Dref yn gweithredu ar lawr y gymuned, mae’n cael ei gydnabod fel sefydliad sy’n cyfleu barn y boblogaeth i’r Awdurdod Unedol mwy. Mae gan y cyngor yr hawl statudol i fynegi barn ar gynllunio a dyfarnu ar faterion yn ymwneud â thrwyddedu.  

Mae Cyngor y Dref yn croesawu barn y trigolion parthed ei wasanaethau a’i gyfrifoldebau. 

Share by: