Ymholiadau Arddangos

YMHOLIADAU YNGHYLCH ARDDANGOSFEYDD

Mae Amgueddfa Pontypridd yn ymrwymedig i arddangos ystod eang o waith celf lleol a rhanbarthol.    

Mae arddangosfeydd yn cael eu cynllunio tua dwy flynedd ymlaen llaw ac yn ganlyniad i argymhellion gan ein tîm curadurol neu drwy gydweithio â phartneriaid eraill. Mae’r mwyafrif o’n harddangosfeydd yn cael eu creu drwy wahoddiad uniongyrchol i artistiaid a churaduron, ac fel arfer nid ydym yn cynnal rhai sy’n deillio o gynigion digymell. 

Fodd bynnag, pe dymunech anfon cynnig atom anfonwch e-bost at museum@pontypriddtowncouncil.gov.uk. Oherwydd y nifer helaeth o ymholiadau mae’r Amgueddfa’n eu derbyn, nid ydym yn gallu cynnig adborth penodol ar gynigion unigol. Rydym yn eich cynghori i beidio ag anfon deunydd drwy’r post oherwydd byddai’n anodd eu dychwelyd.
Share by: