TWISTIAETH
CROESO! WILLKOMMEN! BIENVENUE! ようこそ! BIENVENIDO! BENVENUTO!ΚΑΛΩΣ ΗΡΘΑΤΕ! 歡迎! WITAMY! WELKOM
Rydym ar agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10.00am a 4.30pm drwy gydol y flwyddyn ac eithrio cyfnod y Nadolig. Cyrraedd yma
Yn Amgueddfa Pontypridd mae gyda ni amrywiaeth o bamffledi ar ddigwyddiadau ym Mhontypridd ac ymhellach i ffwrdd.
Beth am i chi lenwi’ch bag gyda’r pethau hanfodol ar gyfer cerdded o gwmpas Pontypridd a byddwn yn rhoi i chi syniadau ar beth i weld.
Am fwy o wybodaeth ar ymweld â gweddill ardaloedd Rhondda Cynon Taf ewch www.rctcbc.gov.uk
BETH SYDD I'W WELD YM MYONTPRIDD
MYND AM DRO BACH
TRYWYDDION HIRACH
Y TAF AR DDWY OLWYN
CYRRAEDD YMA
Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli yng nghanol tref Pontypridd ar ben uchaf, ogleddol Heol Taf.
PARCIO
Mae croeso i ymwelwyr i barcio ar y rhan fwyaf o benwythnosau yn y maes parcio y tu ôl i’r Amgueddfa ar Heol Berw. Yn ystod yr wythnos defnyddiwch un o feysydd parcio ‘talu ac arddangos’ o gwmpas y dref. Y meysydd parcio agosaf i’r amgueddfa yw:
Parcio aml lawr Heol Berw - gyferbyn a’r maes parcio tu ôl i’r amgueddfa.
Iard Nwyddau
- tu ôl i’r orsaf bysiau
Gas Lane
– mynediad ar ochr ogleddol Stryd Taf
YN Y CAR
O Gaerdydd / y de
- Ewch tua’r gogledd ar yr A470 a gadewch wrth y mynegbost sy’n dangos Pontypridd. Ar y cylchfan nesaf i Sainsbury’s, ewch i’r ail allanfa ac ewch i’r lon ar y chwith sy’n dangos mynegbost i ganol y dref. Wrth y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa gyntaf. Byddwch yn mynd heibio Parc Ynysangharad ar y chwith, yna’r croesi pont nesaf i’r Hen Bont hanesyddol ac fe welwch yr amgueddfa ar y dde.
O Ferthyr Tudful / y gogledd - Ewch tua’r de ar yr A470 ac oddi arni ar y gyffordd sy’n dangos Pontypridd. Ar y cylchfan ewch i’r allanfa cyntaf sy’n dangos mynegbost i ganol y dref. Byddwch yn mynd heibio Parc Ynysangharad ar y chwith, yna’r croesi pont nesaf i’r Hen Bont hanesyddol ac fe welwch yr amgueddfa ar y dde.
AR Y TRÊN
Mae trenau’n teithio o Ben-y-bont, Ynys y Bari a Chanol Caerdydd i Bontypridd chwe gwaith yr awr yn ystod yr wythnos, ac ar ddydd Sadwrn tan yn gynnar gyda’r nos; chwiliwch am drenau I Ferthyr Tudful, Aberdâr neu Dreherbert. Mae’r orsaf drên ar y Broadway ar ochr ddeheuol Stryd Taf. I gyrraedd yr amgueddfa, cerddwch yr holl ffordd ar hyd y stryd hon ac fe welwch yr amgueddfa gyferbyn a chi ar yr ochr dde dros y ffordd. Mae’r wefan. National Rail website yn le synhwyrol i ddechrau trefnu eich taith.
AR Y BWS
Mae’n rhwydd cyrraedd Pontypridd ar wasanaethau bysys lleol a rhanbarthol. Mae darparwyr gwasanaethau lleol yn Adventure Travel, Edwards
a Stagecoach
yw’r bysys lleol. O ardaloedd tu allan i gyffiniau’r amgueddfa gallwch ein cyrraedd o Gaerdydd, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent ar y bysiau X4 neu T4. Gallwch hefyd gymryd y 120 neu’r 130 rhwng Caerffili a Blaencwm sy’n dod i Bontypridd. Am wasanaethau bysys eraill mae gwybodaeth ar gael ar wefan Traveline Cymru, neu fe allwch gysylltu â nhw ar 0800 464 00 00.