Amdanom

EIN STORI NI

Mae Amgueddfa Pontypridd, agorwyd ym 1986 yn Nhabernacl; hen Gapel Cymreig y Bedyddwyr, yn adrodd hanes ardal a drawsnewidiwyd o gymuned cwm tawel i dref ddiwydiannol, ffyniannus yng nghanol ardal lofaol De Cymru. O gwmpas y diwydiant hwn y tyfodd ddiwylliant bywiog o gerddoriaeth, celf, chwaraeon a gweithgareddau gwleidyddol sy’n dal i gael dylanwad ar y dref heddiw. 

Wrth brofi o’r 16,000 o wrthrychau sy’n ein casgliad, gallwch ddod i ddysgu popeth am ein tref, o hanes y Maen Chwyf i gywreinrwydd yr Hen Bont.  

Ein Gweledigaeth...
yw hyrwyddo, meithrin a rhannu treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth Pontypridd gyda’n cymunedau lleol ac ehangach.

Ein Cenhadaeth...
wrth gyflawni hyn byddwn yn herio’r camsyniadau am Bontypridd, byddwn yn annog trafodaethau ac yn meithrin cynhwysiad drwy ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ymchwil a chyfranogiad y cyhoedd.

Ein Moeseg...
P
O
N
T
Y
P
R
I
D
D

Share by: