Y Goeden Fywyd

Y GOEDEN FYWYD

Pa fath o natur fydd gyda ni ymhen 100 mlynedd?

Pa fath o natur fydd gyda ni ymhen 100 mlynedd? Bu disgyblion Maesycoed a Ffrindiau Ifanc y Ddaear yn gweithio gyda’r artist Anne-Mie Myn Melis yn fforio syniadau ynghylch bioamrywiaeth a sut y mae holl bethau byw yn perthyn i’w gilydd. Pa fath o natur fydd gyda ni ymhen 100 mlynedd, sut blanhigion a rhywogaeth fydd gyda ni?
1.
Blaenorol
Nesaf
Rydyn ni angen eich help…

Mae cwestiynau ynghylch natur y dyfodol wedi cael eu gofyn a rhai wedi cael eu hateb. Cliciwch ar y delweddau yn yr olygfa i ddod o hyd i gwestiynau a meddyliwch sut i’w hateb.

Gadewch i ni wybod am eich syniadau am natur y dyfodol ym Mhontypridd ymhen 100 mlynedd. Gallwch ymateb ar Twitter neu Facebook …. ar #Pontypridd2120. Mwynhewch!
Mae’r olygfa’n llawn bywyd…

Allwch chi weld y gwenyn? Faint sydd yna? Faint o adar welwch chi? Faint o goed, gwartheg madarchen, tai madarchen, cameleonod, llwynogod, cywgiraffod, gwenyn, defaid, pili-palaod, bygiau, cathod robotig, gwencïod, ysgyfarnogod, cymylau, blodau…..

Cliciwch y delweddau isod i ddod o hyd i gwestiwn

Atebion

(27 o flodau, 65 o goed, 7 aderyn, 1 ystlum, 10 dafad, 1 dwrgi, 3 pysgodyn, 3 pili-pala, 3 cwmwl, 2 wenynen, 3 cameleonod, 4 chwilen, 1 pryf copyn, 1 chwilen, 1 llyffant, 2 wiwer, 4 llwynog, 1 cath robotig, 1 cywgiraff, 1 draenog, 4 bod dynol, 1 malwoden, 1 ysgyfarnog, 1 cwningen…)
Blaenorol
Nesaf
Share by: