Rhoddi gwrthrych

RHODDI GWRTHRYCH

Ni fyddai’r casgliadau yn Amgueddfa Pontypridd mewn bodolaeth oni bai am garedigrwydd a haelioni pobl Pontypridd a’r rhai sydd erbyn hyn ar wasgar. Rydym yn casglu gwrthrychau sydd wedi’u gwneud ym Mhontypridd neu â chysylltiad â’r dref, sef gwrthrychau fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer gwaith ymchwil, ar gyfer dysgu ac arddangos. Er na allwn warantu y bydd pob gwrthrych yn cael ei arddangos, nid yw hyn yn lleihau pwysigrwydd yr eitem oherwydd gwerth yr ymchwil a gwerth yr addysgu. Bydd y gwrthrychau sydd yn y storfa yn cael y gofal gorau ac ar gael pe cyfyd dymuniad i’w gweld.

Oes gyda chi unrhyw beth yr hoffech ei roi?

Cofiwch na allwn ni dderbyn ynrhyw rodd digymell. Byddwn yn dychwelyd rhodd o’r math hwn I’r cyfrannydd.       

Pe hoffech anfon rhodd atom, cysylltwch â ni’n gyntaf os gwelwch yn dda gyda gwybodaeth am yr eitem(au). Gallwch wneud gyn drwy anfon e-bost at museum@pontypriddtowncouncil.gov.uk, drwy ffonio 01443 490740, neu fe allwch ysgrifennu ar Guradur yr Amgueddfa, Amgueddfa Pontypridd, Stryd y Bont, Pontypridd CF37 4PE.

Rydym yn casglu deunydd sydd â chysylltiad agos a hanes Pontypridd, gwrthrychau sydd â:  
  • Chysylltiad â blaenoriaethau casgliadau’r Amgueddfa fel y’u gwelir yn y Polisi Datblygu Casgliadau (ceisiwch gopi)
  • Mae'n gymeriad da
  • Tharddiad a chyd-destun da o ran gwybodaeth megis cysylltiad â pherson lleol neu ddigwyddiad neu adeilad.
Yn anffodus ni allwn dderbyn popeth a gynigir i’r Amgueddfa am y rhesymau canlynol:
  • Digonedd o’r math o enghreifftiau yn yr amgueddfa’n barod  
  • Byddai’r gwrthrych yn fwy perthnasol i natur casgliad mewn amgueddfa arall    
  • Bod diffyg gwybodaeth am yr eitem   
  • Nid yw’r eitem yn berthnasol i hanes Pontypridd 
  • Yr eitem mewn cyflwr gwael  
  • Nid yw’r eitem yn cyfateb i Bolisi Datblygiad Casgliadau’r Amgueddfa. 
Mae pob eitem a gynigir yn cael ei ystyried yn ofalus gan y tîm curadur yng nghyd-destun ein Polisi ar gasgliadau a’n casgliadau presennol. Byddwn yn cysylltu â chi i dderbyn neu i wrthod yr eitem.   

Os ydych am anfon adroddiad ar ddarganfyddiad archeolegol, ffoniwch 02920 573226 os gwelwch yn dda neu anfon e-bost Finds Liaison Officer for South Wales. Mae mwy o wybodaeth parthed darganfyddiadau archeolegol a’r modd o gysylltu ar wefan Portable Antiquities Scheme website.
Share by: