Persbectif Byd-eang 2

PERSPECTIF BYD-EANG

Croeso i weledigaeth o ddyfodol ein byd yn 2120!

Mae plant Ysgol Gynradd Parc Lewis a grŵp amgylcheddol Ffrindiau Ifanc y Ddaear Pontypridd wedi bod yn gweithio gyda’r artist, Catrin Doyle i feddwl sut y bydd ein byd yn edrych yn y dyfodol gan greu dyfeisiadau ffantasi i wneud y byd yn le gwell.

Fydd gyda ni leoedd prydferth i ymlacio, i gymdeithasu, i ddysgu ac i fod yn iach ynddynt?
Wireddir ein breuddwydion?
2.
Blaenorol
Nesaf
Mae plant ym Mhontypridd heddiw yn rhagfynegi y bydd y byd yn un gwahanol ymhen 100 mlynedd oherwydd newid hinsawdd, ond hefyd oherwydd y byddwn wedi dod o hyd i iachâd i bob firws!

Sut fyd fydd gyda ni yn y dyfodol? Ydych chi’n cytuno ag Umar y bydd gyda ni esgidiau roced ac ymladdfeydd sabr ysgafn go iawn? Ydych chi’n meddwl fel Wren, y byddwn yn byw mewn tai mewn canghennau coed neu ym mhodiau cwch gwenyn Alice?
Blaenorol
Nesaf
Share by: