Persbectif Byd-eang 3

PERSPECTIF BYD-EANG

Croeso i'n gweledigaeth o'r byd yn y dyfodol yn 2120!

Mae plant Ysgol Gynradd Parc Lewis a grŵp amgylcheddol Ffrindiau Ifanc y Ddaear Pontypridd wedi bod yn gweithio gyda’r artist, Catrin Doyle i feddwl sut y bydd ein byd yn edrych yn y dyfodol gan greu dyfeisiadau ffantasi i wneud y byd yn le gwell.

Fydd gyda ni leoedd prydferth i ymlacio, i gymdeithasu, i ddysgu ac i fod yn iach ynddynt?
Wireddir ein breuddwydion?
3.
Blaenorol
Nesaf
Heb os nac oni bai, bydd y byd wedi newid llawer yn y 100 mlynedd nesaf, ond gallwn, fel dynoliaeth, gwrdd â’r sialens. Gadewch i mi ddangos rhai o’r dyfeisiadau rhyfeddol fydd yn gwneud ein byd yn le hyfryd i fyw ynddo….

Cymerwch gip ar ddyluniad Evan o gar anweladwy slei siwper! Ond, pa fath o bŵer bydd gyda’n moduron yn y dyfodol? All ceir redeg ar bŵer melin wynt fel yn nyluniad Jake - cyfrifiadur gyda’i felin wynt adeiledig ei hun?
Blaenorol
Nesaf
Share by: