PERSPECTIF BYD-EANG
Croeso i weledigaeth o ddyfodol ein byd yn 2120!
Mae plant Ysgol Gynradd Parc Lewis a grŵp amgylcheddol Ffrindiau Ifanc y Ddaear Pontypridd wedi bod yn gweithio gyda’r artist, Catrin Doyle i feddwl sut y bydd ein byd yn edrych yn y dyfodol gan greu dyfeisiadau ffantasi i wneud y byd yn le gwell.
Fydd gyda ni leoedd prydferth i ymlacio, i gymdeithasu, i ddysgu ac i fod yn iach ynddynt?
Wireddir ein breuddwydion?
4.
Sut fyddwn ni’n teithio yn y dyfodol? Dyluniodd Fletcher ‘wely ac wrth bwyso’r botwm fydd yn troi’n llong enfawr’. Ydych chi’n meddwl y byddwn yn gallu teithio’r byd heb symud o’n gwely yn y dyfodol?
Beth am fynd ar daith ar fainc hedfan Logan neu mewn siwt nofio tanddwr ddyluniwyd gan Wren?